Ffoniwch ni: Ffoniwch ni 0845 609 6006

Image Holder

Beth yw Hybu Gwaith Cymru?

Mae Hybu Gwaith Cymru yn wasanaeth a ariennir gan y llywodraeth sy'n darparu cyngor cyfrinachol, ymarferol am ddim i fusnesau bach yng Nghymru ar iechyd a diogelwch yn y gweithle, rheoli absenoldeb oherwydd salwch a materion dychwelyd i'r gwaith. Drwy ffonio ein Llinell Ymholiadau gallwn:

  • Eich helpu i ddeall eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch
  • Eich helpu i sicrhau fod eich busnes yn lle diogel i weithio ynddo
  • Eich helpu i wella'r sefyllfa
  • Darparu'r cyngor iechyd a diogelwch gorau yn gyflym

Ar gyfer pwy y mae Hybu Gwaith Cymru?

Bydd Hybu Gwaith Cymru yn ddefnyddiol i chi os ydych yn rheoli busnes bach yng Nghymru, yn cyflogi rhwng 5 a 250 o weithwyr ac ni allwch gael gafael ar gyngor iechyd a diogelwch arbenigol.

Gall gweithwyr yng Nghymru hefyd gysylltu â ni i gael cyngor cyfrinachol am ddim a gallwn ddweud wrthych beth mae angen i chi a'ch cyflogwr ei wneud i wneud eich gweithle yn fwy diogel ac iach.

A fyddai ymweliad yn helpu?

Os ydych yn gyflogwr yng Nghymru, gallwn hefyd drefnu ymweliad am ddim â'ch safle gan un o'n cynghorwyr arbenigol a fydd yn edrych ar eich problemau iechyd a dioglewch yn drylwyr.

Ffoniwch ni nawr ar 0845 609 6006 neu gwnewch gais i un o'n cynghorwyr gysylltu â chi.

Disclaimer

Cais am alwad yn ôl

Cais am alwad
yn ôl

Danfonwch gais am alwad yn ôl a fyddwn ni yn galw chi!